top of page

Jemma Gowland • Gorffennaf 1 - 25

Mae Jemma yn creu cerflunwaith naratif mynegiannol sy'n cyfeirio ac yn adeiladu ar draddodiad hir y ffiguryn porslen. Mae ei ffigurau porslen manwl yn archwilio magwraeth ac agwedd, gan ddefnyddio wynebau doliau bwrw, pinnau gwniadwraig wedi'u tanio a chyfryngau cymysg. Mae hi'n chwarae gyda deuoliaeth cydymffurfiaeth a gwrthwynebiad.

Mae Jemma yn archwilio'r ffordd y mae rhywedd yn effeithio ar ein dyfodol o'r eiliad y cawn ein geni, a'r ffordd y mae magwraeth yn dylanwadu ar ein bywyd fel oedolion. Mae merched yn cael eu gorfodi o'u genedigaeth i gydymffurfio ag ymddangosiad a chod ymddygiad, i gyflwyno wyneb perffaith, a chynnal disgwyliadau eraill. Dywed, “Mae bod yn fam, yn wraig ac yn ferch, yn ogystal â bod yn fenyw sy'n aml yn gweithio mewn maes sy'n wrywaidd yn bennaf, wedi arwain at archwiliad o rôl y fenyw, a sut y gall normau cymdeithasol ddal i lunio'r ffordd y mae plant yn cael eu magu.”


Mae'r masgiau sy'n addurno'r ffigurau wedi'u castio o gasgliad mawr o ddoliau. Mae'r doliau'n cyfeirio at blentyndod ond maent hefyd yn adlewyrchu'r ffordd y mae magwraeth wedi golygu bod angen dysgu gwisgo mwgwd er mwyn ein ffitio i mewn i gymdeithas. Mae cysyniad y mwgwd yn darlunio'r wyneb allanol a ddangoswn i'r gair a'r rhan fewnblyg o'n hunaniaethau a gedwir yn breifat.


Hyfforddodd Jemma am radd BSc mewn Dylunio Cynnyrch Peirianneg yn gyntaf, a gweithiodd ym meysydd dylunio diwydiannol, cynhyrchu, a gwneud modelau pensaernïol cyn dod yn athrawes Dylunio a Thechnoleg. Gyda phrofiad o wneud gan ddefnyddio ystod eang o ddefnyddiau, at ystod eang o ddibenion, mae cerameg wedi dod yn ddiddordeb parhaol iddi. Mae amlbwrpasedd unigryw clai, y posibiliadau arwyneb, yr heriau technegol a'r cyfleoedd yn ymddangos yn ddiddiwedd.

Oriel Cone Twelve

Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 11am - 4:30pm

Oriel Cone Twelve

Uned 11, Cei Llechi

Caernarfon

LL55 2PB

Cymru

E: info@conetwelvegallery.com

Ymunwch â'n rhestr bostio

© 2025 gan Oriel Cone Twelve

bottom of page